Cystadleuaeth i blant a phobl ifanc fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Chapter oedd Cardiau Post o’r Dyfodol.
Gweithion ni gyda The Sprout i greu proffil artistiaid ar gyfer y naw cynnig a ddaeth i’r brig. Dyma beth oedd gan y plant a phobl ifanc i’w ddweud.
Anna Hughes enillodd yr alwad agored yma, a bydd ei gwaith celf yn cael ei arddangos ar ein Blwch Golau dros y chwe mis nesaf. Fe gynhalion ni ddigwyddiad lansio i ddathlu Anna a’r plant a’r bobl ifanc eraill a gyflwynodd waith celf.